Ble ydw i?: hafan > esf

esf

 

Cyrraedd y Nod

Ym mis Ebrill 2008 dechreuodd y Ddraig Ffynci ar ail brosiect y sefydliad dan nawdd Cronfa Gymdeithasol Ewrop, fel cyd-noddwr yng nghais ‘Cyrraedd y Nod’ y Cynulliad Cenedlaethol. Erbyn hyn caiff yr arian sydd ar gael yng Nghymru ei alw’n arian Cydgyfeirio, ac mae’n berthnasol i’r ardaloedd sydd wedi’u lliwio’n wyrdd ar y map. Mae’r Ddraig Ffynci yn gyd-noddwr yn y rhan honno o’r cais sy’n ymwneud â Throedle Cyntaf, ac mae’n bwriadu gweithio gyda phobl ifanc 11-19 oed i geisio mynd i’r afael â thangyflawni trwy gyfranogi. Bydd y prosiect yn rhedeg o fis Ebrill 2008 tan fis Ionawr 2013, a bydd yn gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau i’w helpu i ennill sgiliau, cymwysterau a phrofiadau gwerthfawr a fydd yn eu helpu i ddatblygu yn y dyfodol.



Bydd gweithgaredd prosiect Draig Ffynci’n cymryd lle mewn nifer o leoliadau