Newyddion Pwysig i Ddefnyddwyr Facebook
Mae Facebook wedi cyhoeddi y bydd yn darparu ffordd o roi gwybod am achosion o gam-drin i’r CEOP, sef Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein y DU. Bydd ar gael fel rhaglen i’w lawr lwytho yn hytrach na bod yn rhan o’r brif dudalen ac mae’n golygu y gall plant roi gwybod am unrhyw beth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus.
Unwaith y caiff ei gosod, bydd y rhaglen yn ymddangos ar eu tudalen gartref i ddweud “bod ganddynt reolaeth ar-lein”.
Galwodd CEOP, asiantaeth gorfodi cyfreithiau’r llywodraeth sydd â’r dasg o ddarganfod troseddwyr rhyw ar-lein, am osod botwm panig ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fis Tachwedd diwethaf. Mae Facebook wedi ymwrthod â’r alwad honno tan nawr.
Mae’r CEOP yn credu y bydd darparu’r rhaglen i’w lawr lwytho’n gam cyntaf tuag at osod y botwm yn uniongyrchol ar Facebook. Mae Facebook yn gyndyn i osod y botwm yn uniongyrchol ar y safle am eu bod yn credu bod pobl yn hoffi cynllunio a rheoli’u tudalen Facebook eu hunain.
Bydd defnyddwyr Facebook sy’n ychwanegu’r rhaglen yma’n cael mynediad uniongyrchol i holl wasanaethau’r botwm ‘ClickCeop’ a bydd yn integreiddio’r broses adrodd i system Facebook a CEOP fel ei gilydd. Bydd y defnyddwyr yn dal i fod â system adrodd Facebook ac mae’n golygu bod eich holl ffrindiau’n ymwybodol hefyd, ac yn gweithredu fel ymgyrch ymwybyddiaeth feirol.
Mae’n werth ychwanegu’r rhaglen yma i’ch diogelu ac fel dolen gyswllt gyflym i’r awdurdodau os byddwch chi’n poeni neu’n pryderu am unrhyw un neu unrhyw beth ar y safle wrth ddefnyddio Facebook.
Yn ogystal â’r rhaglen rhoi gwybod ar-lein, mae tudalen Facebook/Ceop newydd yn cael ei sefydlu fydd yn cynnwys nifer o bynciau amrywiol fydd o ddiddordeb i bobl ifanc fel pobl enwog, cerddoriaeth ac arholiadau. Bydd yn cysylltu’r pynciau yma â chwestiynau am ddiogelwch ar-lein.
