Hafan

Erthyglau

Cyfranogiad

Yma yn Draig Ffynci, cyfranogiad yw’r bwriad tu ôl i’r holl waith ry’n ni’n ei wneud.  Ry’n ni yma i ddatblygu a hyrwyddo cyfranogiad effeithiol gan blant a phobl ifanc Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru.

Mae cyfranogiad a grymuso’n golygu rhoi cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel.  Mae hynny’n golygu cael lleisio barn ynghylch unrhyw beth sy’n effeithio arnyn nhw.  Mae’n golygu cael gwrandawiad a gwybod y bydd yr hyn mae plant a phobl ifanc yn dweud yn cael ei gymryd o ddifrif ac yn cael ei weithredu.

Gosodir yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).  Trwy alluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi, rydym yn cyfrannu tuag at weithredu’r UNCRC yng Nghymru.  Mae Draig Ffynci’n cefnogi Erthygl 12 sy’n datgan -

"Bydd Llywodraethau’n sicrhau hawl y plentyn sydd â’r gallu i ffurfio ei farn ei hun yr hawl i fynegi’r farn honno’n rhydd yn yr holl faterion sy’n effeithio ar y plentyn, gan roi sylw teilwng i farn y plentyn yn ôl ei oedran a’i aeddfedrwydd”

Mae gwneud yn siŵr bod cyfranogiad yn effeithiol yn bwysig iawn ac mae ymgynghori’n ffactor bwysig.  Mae ymgynghoriad ar ei fwyaf effeithiol pan fydd plant a phobl ifanc yn cael grym, yn cael hwyl ac yn teimlo’n werthfawr - dyna pryd maen nhw’n cyfranogi go iawn.  Mae angen cefnogi hyn gyda chyfathrebu effeithiol, dylanwad go iawn, adborth a gwerthusiad.  Mae galluogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd  y cynhelir pob cam o’r ymgynghoriad hefyd yn sicrhau eu bod yn cael eu grymuso gan yr ymgynghoriad.

Mae yna wahanol lefelau o gyfranogiad y gellir eu defnyddio wrth weithio gyda phobl ifanc.  Mae’r diagram isod yn dangos y 5 gwahanol lefel ac mae’n seiliedig ar Ysgol Gyfranogi Roger Hart (1997).

Rydym yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc a dyna sy’n pennu’r gwaith ry’n ni’n ei wneud.  Trwy’r wefan gyfan, gallwch weld hyn, wrth ichi gael gwell dealltwriaeth o’r gwaith cyfranogi a wneir gan Draig Ffynci.

Mae Draig Ffynci wedi cynhyrchu cyfarwyddyd o’r enw "Tanio Cyfranogiad" (‘Breathing Fire into Participation’)  sy’n cynnwys canllawiau arfer dda ar gyfer cynorthwyo grwpiau o blant a phobl ifanc i gymryd rhan.

Gallwch brynu copi caled o’r cyfarwyddyd hwn am £5 neu gallwch ei lwytho i lawr ar y cyswllt isod.

Attachments:
Download this file (Breathing Fire into Participation.pdf)Breathing Fire Into Participation[ ]714 Kb

We use cookies to improve our website and your experience when using it. Cookies used for the essential operation of the site have already been set. To find out more about the cookies we use and how to delete them, see our privacy policy.

I accept cookies from this site.

EU Cookie Directive Module Information