Erthyglau
Cyfarfodydd gyda Gweinidogion

Pob blwyddyn mae cynrychiolwyr y Ddraig Ffynci'n cael y cyfle i gwrdd unwaith eto â Gweinidogion y Cynulliad i'w cwestiynu ar y materion sy'n effeithio ar bobl ifanc ar draws Cymru. Yn ystod y cyfarfodydd, gall pobl ifanc ddod i wybod am yr hyn y bu'r Gweinidogion yn ei wneud ers y CCB blaenorol, gan ddilyn trywydd unrhyw faterion a drafodwyd mewn cyfarfod blaenorol a defnyddio'r amser er mwyn dod i adnabod y Gweinidogion yn well!
Dewisir y cwestiynau gan y prif gyngor, y fforymau ieuenctid, y grwpiau diddordeb penodol ac unrhyw grwpiau eraill o bobl ifanc sydd am ofyn cwestiwn a chael ateb gan Aelodau'r Cynulliad.
Mae Gweinidogion sydd wedi mynychu cyfarfodydd yn y gorffennol yn cynnwys Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a Jane Hutt, y Gweinidog dros Cydraddoldeb Busnes a Phlant.



