Hafan

Am Interviews

Syrffio'n Ddiogel

Mae'r testun a ganlyn wedi cael ei greu i bobl ifanc Cymru gan Canllaw Online

Syrffio'n Diogel
Dwyt ti ddim yn meddwl am y peth, mae'n debyg, ond yn anffodus, mae yna filiynau o bobl yn syrffio bob eiliad a dydyn nhw ddim i gyd yn neis iawn! Trïa fod yn ddiogel trwy ddilyn y rheolau syml yma.
* Paid â bod yn bersonol – Bydd yn ofalus wrth roi dy enw, cyfeiriad, rhif ffôn neu wybodaeth bersonol arall i bobl. Weithiau mae'n rhaid i ti os wyt ti'n siopa ar-lein ayb, ond bydd yn synhwyrol. Os ydyn nhw'n gofyn am wybodaeth bersonol cer i rywle arall, mae yna ddigon o safleoedd i'w cael.
* Cystadlaethau – Bydd yn ofalus wrth gymryd rhan mewn cystadlaethau ayb, efallai dy fod di'n cytuno i dalu am wasanaethau diangen.
* Lwytho i lawn rhaglenni – Darllena'r telerau ac amodau'n ofalus. Efallai fod y safle'n dweud bod y pethau yma yn rhad ac am ddim ond mae'n bosibl y bydd rhywun yn dweud fel arall!
* Pethau annifyr – Os wyt ti'n derbyn rhywbeth annifyr, cofia adrodd amdano.
* Cysylltiadau – Os wyt ti'n cael e-bost oddi wrth rywun diarth, paid ag agor unrhyw gysylltiadau, mae'n bosibl bod yna firws neu safle anaddas.
* Ffotograffau – Paid â gyrru dy ffoto at neb, heb wirio bod hynny'n iawn ymlaen llaw ac os wyt ti'n islwytho ffotos, gofala eu bod nhw'n dod o safleoedd di-dâl a chymeradwy. Os wyt ti'n codi ffotos o safleoedd, mae'n bosib mynd i drafferth.
* Cyfrineiriau – Cadwa nhw'n gyfrinachol, paid â dweud hyd yn oed wrth dy ffrindiau, mae pobl yn gallu agor dy ffeiliau preifat ac mae gan foch bach glustiau hir, cofia.
* Parch – Parcha dy hun a phobl eraill.
* Bydd yn fodlon – Paid â rhoi gwybodaeth i bobl os nad wyt ti ddim yn fodlon gwneud. Os oes safle lle mae'n rhaid llenwi bwlch, paid â meddwl bod rhaid i ti wneud, cer i rywle arall. Cyn i ti lenwi dim byd, meddylia'n ofalus.
* Cadw cardiau credyd yn ddiogel – Wrth archebu pethau neu wrth roi manylion dy gerdyn credyd gofala fod yna symbol diogelwch cardiau credyd ar y safle. Mae'n edrych yn debyg i glo clwt melyn ac mae'n golygu y bydd dy fanylion di'n ddiogel.

Cwrteisi Ar-lein

Mae'r testun a ganlyn wedi cael ei greu i bobl ifanc Cymru gan Canllaw Online

Gair i gall – bihafia ar-lein a bydd yn gyfrifol.
Fel gyda phopeth arall, mae yna reolau wrth fynd ar-lein. Mae'n bosib nad wyt ti ddim yn gallu gweld y person arall, ond cofia eu bod nhw yna! Os wyt ti'n anhapus gydag unrhyw wybodaeth sy'n dod trwodd, gwna gopi caled a'i ddangos i rywun.
* Bydd yn gwrtais – a phaid â bihafio fel rhywun hurt.
* Cofia drin pobl fel pobl – ac nid fel bodau heb deimladau.
* PAID Â THEIPIO POPETH MEWN LLYTHRENNAU BRAS – Mae'n debyg i weiddi ar rywun! IAWN?
* Gwylia dy eiriau – Allan nhw ddim gweld dy wyneb di ac mae'n bosib i bobl gamddehongli dy eiriau a meddwl dy fod di'n hunandybus neu rhy siaradus ayb. Defnyddia 'emoticons'.
* Anghofia am regi – Mae pobl yn clustfeinio ac mae'n hawdd terfynu dy gyfri e-bost!
* Mae deddf yn ddeddf – Beth bynnag sy'n digwydd yn y byd go-iawn yn digwydd mewn gofod seiber hefyd.
* Bydd yn syml – Gyrra dy neges mewn ffordd syml, dim print bras, dim italeiddio, tanlinellu ayb. Gorau po hawsa. Dydy pawb ddim yn defnyddio'r un system â ti. Efallai y byddan nhw'n cael llwyth o godau annealladwy – sy'n boen!
* Bydd yn gryno – Paid ag ailadrodd pethau, gad i'r pethau rwyt ti wedi'u dweud yn barod a phaid â moedro ymlaen.
* Negeseuon annifyr – Paid â gyrru negeseuon annifyr. Os ydy rhywun yn gwneud hynny i ti, paid â gwneud yr un peth yn ôl; gad i rywun mewn awdurdod wybod. Mae deddf yn ddeddf, cofia.
* Pwy wyt ti? – Dywed wrth bobl pwy wyt ti, mae'n anghwrtais peidio. Os wyt ti'n defnyddio enw arall ar-lein, popeth yn iawn.
* Mae argraffiadau'n cyfri – Mae dy sgrifennu di'n dangos sut berson wyt ti. Mae gramadeg a sillafu gwael yn edrych yn wael, ac mae'r un rheolau'n bod wrth sgrifennu a theipio.
* Bydd yn amyneddgar – Rwyt ti'n gwybod beth ydy beth, cofia fod yna bobl newydd sy'n trio dysgu pethau.

Telerau ac Amodau

HYSBYSIAD CYFREITHIOL PWYSIG YW HWN; DARLLENWCH EF CYN MYND AT WEFAN DRAIG FFYNCI ("y Wefan")

Fersiwn hawdd i'w darllen
Ti
Rhaid i ti beidio:
· copïo unrhyw beth o'r wefan hon.
· dibynnu ar unrhyw wybodaeth ar y wefan hon
· amharu ar ddefnydd bobl eraill o'r wefan.
· defnyddio'r wefan hon at unrhyw bwrpas anghyfreithlon
· rhoi unrhyw beth ar y wefan:
1. sy'n anweddus, yn aflednais, yn ddi-chwaeth neu'n bornograffig
2. sy'n anghyfreithlon, yn fygythiol, yn sarhaus neu'n peri gofid i eraill
3. sy'n hiliol neu'n gas yn ethnig neu'n annerbyniol.
4. sy'n enllibus neu'n fradwrus.
5. sy'n gableddus.
6. llythyr cadwyn, cynllun pyramid neu unrhyw hysbysebu na ofynnwyd amdano neu unrhyw beth sy'n amharu ar hawliau unrhyw un megis hawlfreintiau neu hawliau moesol.
Rhaid i ti:
· edrych ar amodau a thelerau'r wefan yn rheolaidd oherwydd mae'n bosib y byddan nhw'n newid
· ufuddhau i reolau'r safle
Mae popeth rwyt ti'n ei roi ar y wefan hon yn perthyn i'r Ddraig Ffynci. Dy farn di rwyt ti'n ei bostio nid ein barn ni.
Os na fyddi di'n ufuddhau i reolau'r wefan rwyt ti'n cytuno i dalu unrhyw gostau cyfreithiol a all godi o ganlyniad i hynny.
Ni
Allwn ni: dy atal rhag defnyddio'r wefan hon os dorri di'r rheolau.
Allwn ni ddim:
· gwarantu dy fod wedi dy amddiffyn rhag unrhyw firws cyfrifiadurol
· gwarantu bod y wefan yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddi-dor.
· gwarantu bod yr holl wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gywir
· bod yn gyfrifol am yr hyn yr wyt ti'n ei roi ar y wefan hon
· bod yn gyfrifol os wyt ti'n dibynnu ar wybodaeth sydd ar y wefan hon ac yn cael dy hun i drwbl o ganlyniad i hynny.
Dydyn ni ddim: yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r tudalennau cyswllt
Fersiwn hir
Mae'ch mynediad i'r Wefan yn ddarostyngedig i'r telerau ac amodau a ganlyn. Wrth fynd at y Wefan, rydych yn cytuno'n ddiamod â'r telerau ac amodau hyn. Os nad ydych yn cytuno â hwy, peidiwch â mynd at y Wefan.
1. Mae pob hawl, gan gynnwys hawlfraint a hawl cronfa ddata yn y Wefan a'i chynnwys, yn eiddo i Draig Ffynci neu ar drwydded iddo, neu'n cael eu defnyddio gan Draig Ffynci fel y bo'r gyfraith berthnasol yn caniatáu.
2. Mae pob deunydd ar y Wefan gan gynnwys testun, delweddau, nodau masnach, logos, nodau gwasanaeth a delweddau personol yn eiddo perchnogaeth neu hawlfraint ac oni nodir yn benodol i'r gwrthwyneb ni cheir ei gopïo, ei atgynhyrchu, islwytho, trosglwyddo, dosbarthu na'i drin mewn unrhyw ffordd ond y gallwch islwytho un copi o ddeunydd a geir ar y Wefan ar eich cyfrifiadur personol i ddibenion anfasnachol, personol ar yr amod eich bod yn cadw pob hawlfraint, credyd a hysbysiad arall a geir ar y deunydd. Ni fyddwch yn addasu unrhyw ddeunydd o'r fath i unrhyw ddiben arall.
3. Ac eithrio fel a ganiateir uchod, rydych yn ymgymryd i beidio â chopïo, storio mewn unrhyw gyfrwng (gan gynnwys unrhyw wefan arall), dosbarthu, trosglwyddo, aildrosglwyddo, darlledu, addasu neu ddangos yn gyhoeddus unrhyw ran o'r Wefan heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Draig ffynci neu yn unol â Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Hawlfraint a Hawliau Cysylltiedig 1996.
4. Nid yw Draig Ffynci yn gwarantu bod y swyddogaethau a geir yn y deunydd a gynhwyswyd ar y Wefan hon yn ddirwystr na heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y Wefan hon na'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd rhag firysau na chwilod na'i bod yn dangos swyddogaeth na chywirdeb y deunyddiau ar eu heithaf.
5. Er y bydd Draig Ffynci yn gwneud pob ymdrech resymol i fonitro ac adolygu unrhyw drafodaeth, negeseuon, trosglwyddiadau a deialog ar y Wefan yn achlysurol ac yn gyffredinol er mwyn dilyn arfer gorau, ni all Draig Ffynci fonitro pob deunydd yn barhaus ac ni fydd Draig Ffynci, ac mae'n ymwrthod yn agored hyd y gellir yn ôl y gyfraith â phob cyfrifoldeb ac atebolrwydd o bob math am unrhyw gamgymeriad, anghywirdeb, camliwio, sen, diffyg, anwiredd, anlladrwydd, deunydd pornograffig, deunydd peryglus neu unrhyw ddeunydd arall a gynhwysir ar y Wefan. Ar ben hynny, nid yw Draig Ffynci yn adolygu nac yn monitro cynnwys unrhyw dudalennau neu safleoedd sy'n gysylltiedig â'r Wefan ac nid yw'n cymryd arno ac ni fydd yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw gynnwys o'r fath.
6. Er bod Draig Ffynci wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y Wefan yn gywir a chyfoes, ni ddylid trin y wybodaeth ar y Wefan fel gosodiadau cyflawn ac awdurdodol. Mae Draig Ffynci wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol ond nis bwriedir ond fel canllawiau. Os hoffech wybod rhagor am unrhyw un o'r pynciau a geir ar y Wefan rydym yn argymell i chi gysylltu â'r sefydliadau arbenigol a restrir neu a grybwyllir ar y Wefan neu i gysylltu'n uniongyrchol â Draig Ffynci a all eich cyfeirio at sefydliadau arbenigol a fydd yn gallu eich helpu.
7. Mae Draig Ffynci yn croesawu eich cywiriadau, sylwadau ac unrhyw wybodaeth ategol sydd gennych am y Wefan. Cysylltwch â Draig Ffynci yn y cyfeiriad e-bost a ganlyn: Mae'r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i'w weld.
8. Ni cheir darparu unrhyw rhan o'r Wefan hon fel rhan o Wefan arall heb ganiatâd ysgrifenedig Draig Ffynci.
9. Ac eithrio lle nodir ym mharagraff 2 uchod, ceisio awdurdod (awdurdod i'w roddi yn ôl disgresiwn Draig Ffynci yn unig) i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu gynnwys a gynhwyswyd ar y Wefan hon, cysyllter â Mae'r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i'w weld. Am ragor o wybodaeth am y cysylltiadau i'r Wefan ac ohoni cysyllter â Mae'r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i'w weld.
Fforymau as stafelloedd sgwrsio
Ni chewch wneud y canlynol:
1. postio na throsglwyddo'r deunydd a ganlyn ar y Wefan ar unrhyw adeg:
· deunydd anweddus, di-chwaeth na phornograffig;
· deunydd sy'n anghyfreithlon, bygythiol, tramgwyddus neu aflonyddol;
· deunydd sy'n atgas i hil nac ethnigrwydd;
· deunydd sy'n absennus neu fradwrus;
· deunydd sy'n gableddus;
· llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid neu hysbysebion dieisiau neu unrhyw ddeunydd sy'n tarfu ar hawliau pobl megis hawlfraint neu hawl foesol s;
2. gwneud unrhyw beth sy'n ymyrryd â gallu rhywun i ddefnyddio na mwynhau'r Wefan;
3. defnyddio'r Wefan i unrhyw ddiben anghyfreithlon;
4. tarfu ar y Wefan, er enghraifft, trwy wneud i'r sgrîn droelli'n rhy gyflym i bobl allu teipio eu negeseuon, neu drwy newid pwnc y sgwrs yn sydyn er mwyn atal llif y dialog (os yn briodol).
5. Mae Draig Ffynci yn cadw'r hawl i derfynu eich mynediad i'r Wefan ar unwaith a gall ddwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn os ydych yn torri'r rheolau yma yngly^n ag ymddygiad ar-lein.
6. Bydd pob barn a safbwynt a fynegir mewn unrhyw negeseuon a gyhoeddir mewn unrhyw stafell sgwrsio neu fforwm a geir ar y Wefan bob amser yn eiddo i'r bobl sy'n cyhoeddi'r negeseuon ac ni fyddant byth yn eiddo i Lais Ifanc oni nodir yn wahanol gan Lais Ifanc.
Dibynadwyedd
Rydych yn cytuno i beidio â gweithredu na dibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunydd a geir ar y Wefan, a ddarperir gan Lais Ifanc er diddordeb, cyfarwyddyd, gwybodaeth ac adloniant i chi'n unig. Ni fydd Draig Ffynci yn atebol yn ôl y gyfraith, ac yn gwadu pob atebolrwydd yn agored, yn deillio o'ch dibyniaeth ar y gyfryw wybodaeth o unrhyw fath , boed uniongyrchol neu anuniongyrchol.
Hawliau a Diffyg Cyfrinachedd
Yn ddarostyngedig i ddogfen Polisi Cyfrinachedd Draig Ffynci (sydd ar gael ar y Wefan hefyd), bydd unrhyw wybodaeth neu ddata a drosglwyddir neu a gyhoeddir gennych ar y Wefan yn eiddo yn gyfan gwbl i Lais Ifanc a gellir eu defnyddio gan Lais Ifanc i unrhyw bwrpas gan gynnwys heb gyfyngiad ar atgynhyrchu, datgelu i drydydd partïon, darlledu, trosglwyddo, cyhoeddi neu fel arall yn ôl disgresiwn Draig Ffynci, ac yn iawn am ganiatâd Draig Ffynci i chi gael mynediad i'r Wefan rydych gan hyn yn cydnabod eich bod yn cyflwyno i Lais Ifanc gyda hyn bob hawlfraint bresennol ac yn y dyfodol o unrhyw natur yn y deunydd hwn ac i'r deunydd hwn trwy'r byd hyd byth gan gynnwys pob adnewyddiad ac ail-wneud.
Indemnedd
Rydych yn cytuno i gynnig indemniad ac i barhau i gynnig indemniad i Lais Ifanc rhag pob rhyw hawliad, iawn, treuliau, costau ac atebolrwydd sy'n cynnig mewn unrhyw fodd wrth i chi gael mynediad i'r Wefan a'i defnyddio , ac eithrio lle bo'n unol â'r telerau a'r amodau hyn.
Diwygiadau
Gall Draig Ffynci o bryd i'w gilydd ddiwygio'r telerau a'r amodau hyn ac rydych yn cytuno i fod yn rhwymedig i'r cyfryw ddiwygiadau a dylech gan hynny ymweld â'r tudalen o bryd i'w gilydd i ailymgynefino â'r - telerau ac amodau.
Diweddaru
Nid yw Draig Ffynci yn derbyn unrhyw ddyletswydd i gynal nac i ddiweddaru'r Wefan.
Cysylltiadau
Er y bydd Draig Ffynci yn gwneud pob ymgais resymol i sicrhau bod gwefannau eraill y gallwch gysylltu â hwy o'r Wefan yn briodol, nid yw Draig Ffynci yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gynnwys gwefannau o'r fath nac am unrhyw wefan a gyrhaeddir trwy'r cysylltiadau o'r Wefan.
Cyffredinol
Os penderfynir bod unrhyw un o'r Telerau ac Amodau hyn yn anghyfreithlon, annilys neu anorfodwy oherwydd deddfau unrhyw wladwriaeth neu wlad lle y bwriedir i'r Telerau ac Amodau hyn fod yn effeithiol of, yna i'r graddau y bydd y Telerau neu'r Amodau hynny'n anghyfreithlon, annilys neu anorfodwy, fe'i torrir ymaith a'i ddileu o'r cymal hwn it a bydd y telerau a'r amodau sy'n weddill yn dal mewn grym ac yn gwbl effeithiol a bydd yn dal yn rhwymol a gorfodol. Rheolir a dehonglir y Telerau a'r Amodau hyn yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod yn deillio o hyn yn ddarostyngedig yn gyfan gwbl i gyfraith llysoedd Cymru a Lloegr. Os na dderbynnir y Telerau ac Amodau hyn yn llawn, nid oes caniatâd gennych i gael mynediad i gynnwys y Wefan hon a dylech gan hynny roi'r gorau i ddefnyddio'r Wefan ar unwaith.
Polisi Cyfrinachedd
Gweler y ddogfen Polisi Cyfrinachedd a geir ar y Wefan am wybodaeth am ein polisïau ar ddiogelu cyfrinachedd plant a phobl ifanc ar-lein. Os oes gennych sylwadau ar y Wefan cysyllter â Mae'r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i'w weld. @ Draig Ffynci 2002.

Mwy o erthyglau

We use cookies to improve our website and your experience when using it. Cookies used for the essential operation of the site have already been set. To find out more about the cookies we use and how to delete them, see our privacy policy.

I accept cookies from this site.

EU Cookie Directive Module Information